top of page

In loving Memory of Elin Ludgate | Er Cof Annwyl am Elin Ludgate 


Er Cof Annwyl am Elin Ludgate 

Gyda thristwch mawr a chalon drom, rydym am rannu’r newyddion trist am farwolaeth Elin Ludgate, ein cydweithwraig a’n ffrind dewr ac uchel ei pharch, ar Fawrth 1af.

Ers cychwyn ei siwrnai gyda LHP ym Mehefin 2016, mae Elin wedi bod yn aelod amhrisiadwy o’n tîm, gan wneud cyfraniad enfawr i lwyddiant ein cleientiaid, yn enwedig ym maes amaeth gan fod ffermio yn agos iawn at ei chalon. Fel Uwch Gyfrifydd, roedd Elin yn adnabyddus nid yn unig am ei gwybodaeth eang a manwl ond hefyd am ei empathi a’i hymroddiad wrth gefnogi ei chydweithwyr. 

Diolch i’w gwybodaeth a’i hymroddiad diguro, roedd Elin yn arweinydd tosturiol ac yn ysbrydoliaeth i lawer.

Wrth i ni ddod i delerau â’r golled enfawr hon, byddwn yn gweld eisiau caredigrwydd, penderfyniad, chwerthin a chryfder Elin yn fwy nag y gallem byth ei amgyffred. Amhosib fydd llenwi’r ddesg wag a adawyd ganddi.

Mae ein meddyliau gyda Chris, Elis, Ifan, y teulu a ffrindiau Elin, ac estynnwn ein cydymdeimlad dwysaf iddynt yn ystod y cyfnod hynod anodd hwn.

Bydd Elin yn ein calonnau ac yn rhan o deulu LHP am byth.



Elin Ludgate


In Loving Memory of Elin Ludgate

It is with great sadness and heavy hearts that we announce the passing of our esteemed and courageous colleague and friend, Elin Ludgate, who passed on March 1st.

Since beginning her LHP journey in June 2016, Elin has been an invaluable member of our team, making significant contributions, in particular, to the success of our agricultural clients, as farming was very close to her heart.

As a Senior Accountant, she was known not only for her exceptional knowledge but also for her empathy and dedication in supporting her colleagues. Her knowledge and commitment were second to none, a compassionate leader and an inspiration to many.

As we come to terms with this immense loss, we will miss Elin, her kindness, determination, laughter, and strength more than we could ever comprehend. It will be very difficult to fill the empty desk left by Elin.

Our thoughts and deepest condolences are with Chris, Elis, Ifan, family and friends during this incredibly difficult time.

Elin will always be in our hearts and part of the LHP family.

 
 
 

Comentarios


bottom of page